Rheoliadau Drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 79(4A) o Ddeddf Iechyd 2006 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif (Cy. )
iechyd y cyhoedd, CYMRU
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaed o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006, yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â cherbydau di-fwg yng Nghymru. Maent yn diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(1) yn diwygio rheoliad 1 o’r prif Reoliadau (dehongli).
Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 4A newydd yn y prif Reoliadau, sy’n darparu bod cerbydau preifat yn ddi-fwg os ydynt yn gaeedig gyda mwy nag un person yn y cerbyd a pherson o dan 18 oed yn bresennol yn y cerbyd. Mae awyrennau a’r rhan fwyaf o longau a hofrenfadau wedi eu heithrio. Mae carafanau a chartrefi modur wedi eu heithrio mewn amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod rheoliad 7A newydd yn y prif Reoliadau, sy’n darparu bod gyrrwr cerbyd, sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A, o dan ddyletswydd i beri bod personau yn stopio ysmygu yn y cerbyd hwnnw. Mae’n mewnosod hefyd reoliad 7B newydd yn y prif Reoliadau, sy’n darparu y ceir rhoi hysbysiad o gosb os oes rheswm i amau bod y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd preifat di-fwg wedi ei chyflawni.
Mae rheoliad 2(4) yn rhoi’r ffurflen hysbysiad o gosb sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn lle’r ffurflen hysbysiad o gosb rhif 2 sydd yn yr Atodlen i’r prif Reoliadau, er mwyn gallu defnyddio’r ffurflen newydd ar gyfer y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn cerbyd preifat di-fwg o dan adran 8 o Ddeddf Iechyd 2006, yn ogystal â’r drosedd o ysmygu mewn lle di-fwg o dan adran 7 o’r Ddeddf honno.
Mae rheoliad 2(5) yn darparu mai prif swyddogion heddlu yw’r awdurdodau gorfodi ar gyfer cerbydau preifat di-fwg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Tybaco o Is-adran Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau Drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 79(4A) o Ddeddf Iechyd 2006 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif (Cy. )
iechyd y cyhoedd, CYMRU
Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed ***
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ***
Yn dod i rym 1 Hydref 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 5, 8(3), 9(1A), 10(1) a (2), o Ddeddf Iechyd 2006([1]) a pharagraff 4 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol, y gosodwyd drafft ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 79(4A) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 1 Hydref 2015 .
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007([2]).
Diwygio’r prif Reoliadau
2.—(1) Yn rheoliad 1(3) o’r prif Reoliadau (dehongli)—
(a) yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau canlynol—
“ystyr “carafán” (“caravan”) yw ôl-gerbyd a gynlluniwyd i’w ddefnyddio ar ffyrdd ac sy’n darparu llety preswyl symudol;”;
“ystyr “carafán modur” (“motor caravan”) yw cerbyd modur a adeiladwyd neu a addaswyd ar gyfer cludo teithwyr a’u heiddo personol ac sy’n cynnwys, ar ffurf cyfarpar gosodedig parhaol, y cyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol i alluogi’r cerbyd i ddarparu llety preswyl i’w ddefnyddwyr;”;
“mae i “ffordd” yr ystyr a roddir i “road” yn adran 192(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988([3]).
(2) Ar ôl rheoliad 4 o’r prif Reoliadau (cerbydau di-fwg) mewnosoder y canlynol—
4A. Cerbydau preifat sydd â phlant yn bresennol
(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, mae cerbyd preifat neu unrhyw ran o gerbyd preifat yn ddi-fwg—
(a) os yw’n gaeedig,
(b) os oes mwy nag un person yn bresennol yn y cerbyd, ac
(c) os oes person o dan 18 oed yn bresennol yn y cerbyd.
(2) Mae cerbyd neu ran o gerbyd yn gaeedig at ddibenion paragraff (1) pan fo ganddo ddrysau neu ffenestri y gellir eu hagor, ond nid yw’n gaeedig onid oes to yn ei orchuddio yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
(3) Yn y rheoliad hwn nid yw “to” yn cynnwys unrhyw do a gadwyd yn gyfan gwbl o’r neilltu fel nad yw’n gorchuddio unrhyw ran o gompartment y gall personau deithio ynddo.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bob cerbyd ac eithrio—
(a) carafán neu garafán modur sy’n sefydlog ac nad yw ar ffordd;
(b) carafán neu garafán modur sy’n sefydlog ac ar ffordd, ac sy’n cael ei defnyddio fel llety preswyl;
(c) awyren;
(d) llongau neu hofrenfadau y gellid gwneud rheoliadau yn eu cylch o dan adran 85 o Ddeddf Llongau Masnach 1995([4]) (iechyd a diogelwch ar longau), gan gynnwys yr adran honno fel y’i cymhwysid gan unrhyw orchymyn y Cyfrin Gyngor o dan adran 1(1)(h) o Ddeddf Hofrenfadau 1968([5]).
(3) Ar ôl rheoliad 7 o’r prif Reoliadau (dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau di-fwg), mewnosoder—
7A. Dyletswydd i atal ysmygu mewn cerbydau preifat di-fwg
Mae gyrrwr cerbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A o dan dyletswydd i beri bod unrhyw berson sy’n ysmygu yn y cerbyd yn stopio ysmygu.
7B. Cosbau penodedig
Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi, sydd â rheswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 8(4) o’r Ddeddf mewn perthynas â cherbyd sy’n ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A, roi i’r person hwnnw hysbysiad o gosb mewn perthynas â’r drosedd.
(4) Yn yr Atodlen i’r prif Reoliadau (Ffurfiau ar Hysbysiad o Gosb), yn lle ffurflen rhif 2 rhodder y ffurflen sydd yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
(5) Yn rheoliad 8 o’r prif Reoliadau (gorfodi: dynodi awdurdodau gorfodi), ar ôl paragraff (3) ychwaneger—
(4) Dynodir Prif Swyddog pob heddlu yn awdurdod gorfodi at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o’r Ddeddf.
(5) Mae gan awdurdod gorfodi a ddynodir o dan baragraff (4) swyddogaethau gorfodi mewn perthynas â cherbydau sydd—
(a) yn ddi-fwg yn rhinwedd rheoliad 4A; a
(b) o fewn yr ardal heddlu y cynhelir yr heddlu dan sylw ar ei chyfer ([6]).
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
YR ATODLEN Rheoliad 9(1)
|
SCHEDULE Regulation 9(1)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ffurflen 2 Ysmygu mewn man di-fwg Methu ag atal ysmygu mewn cerbyd preifat di-fwg.
|
Form 2 Smoking in a smoke-free place Failing to prevent smoking in a smoke-free private vehicle.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
[ENW’R AWDURDOD GORFODI] |
[NAME OF ENFORCEMENT AUTHORITY] |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
[CYFEIRIAD YR AWDURDOD GORFODI] |
[ADDRESS OF ENFORCEMENT AUTHORITY] |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DEDDF IECHYD 2006: |
HEALTH ACT 2006: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRAN 7 (YSMYGU MEWN MAN DI-FWG) |
SECTION 7 (SMOKING IN A SMOKE-FREE PLACE) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRAN 8 (METHU AG ATAL YSMYGU MEWN MAN DI-FWG: CERBYD PREIFAT)
|
SECTION 8 (FAILING TO PREVENT SMOKING IN A SMOKE-FREE PLACE: PRIVATE VEHICLE)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
HYSBYSIAD O GOSB BENODEDIG
|
FIXED PENALTY NOTICE
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
SWM Y GOSB: £50
|
PENALTY AMOUNT £50
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAN 1 COPI’R DERBYNNYDD
|
PART 1 RECIPIENT COPY
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
RHAN 2 GWYBODAETH AR GYFER SYLW PRYDLON Y PERSON Y RHODDIR YR HYSBYSIAD HWN IDDO: |
PART 2 INFORMATION FOR THE IMMEDIATE ATTENTION OF THE PERSON WHO HAS BEEN ISSUED WITH THIS NOTICE: |
Rydych wedi cael yr hysbysiad hwn oherwydd bod gan swyddog awdurdodedig [enw’r awdurdod gorfodi], a enwir yn Rhan 1 o’r hysbysiad hwn, reswm i gredu eich bod wedi cyflawni’r tramgwydd o |
You have received this notice because the authorised officer of [name of enforcement authority] named in Part 1 of this notice has reason to believe that you have committed the offence of |
(i) ysmygu mewn mangre neu gerbyd di-fwg; neu (ii) methu ag atal ysmygu mewn cerbyd preifat di-fwg, |
(i) smoking in a smoke-free premises or vehicle; or (ii) failing to prevent smoking in a smoke-free private vehicle, |
fel y’i disgrifir yn Rhan 1. O fewn y cyfnod o 29 diwrnod a bennir yn Rhan 1, rhaid ichi naill ai dalu’r gosb neu ofyn am wrandawiad i’r mater gerbron llys. Ni chaniateir ichi wneud y ddau beth. |
as described in Part 1. Within the 29 day period specified in Part 1, you must either pay the penalty or request that the matter be heard by a court. You may not do both. |
Os methwch â gwneud y naill beth na’r llall, caiff [enw’r awdurdod gorfodi] fel awdurdod gorfodi yn rhinwedd adran 10 o Ddeddf Iechyd 2006, ddwyn y mater gerbron llys. Mae person a geir yn euog o ysmygu mewn man di-fwg yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 1 ar y raddfa safonol. Mae person a geir yn euog o’r tramgwydd o ysmygu mewn cerbyd preifat di-fwg yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
|
If you fail to do either, [name of enforcement authority] as an enforcement authority by virtue of section 10 of the Health Act 2006, may pursue this matter in court. A person found guilty of the offence of smoking in a smoke-free place is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 1 on the standard scale. A person found guilty of the offence of failing to prevent smoking in a smoke-free private vehicle is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 4 on the standard scale.
|
RHAN 3 TALU’R GOSB
|
PART 3 PAYING THE PENALTY
|
Swm y gosb benodedig yw £50 (hanner cant o bunnoedd). Rhaid talu’r swm o fewn y cyfnod o 29 diwrnod a bennir yn Rhan 1. |
The amount of the fixed penalty is £50 (fifty pounds). It must be paid within the 29 day period which is specified in Part 1.
|
Cewch dalu swm gostyngedig o £30 (deg punt ar hugain) os byddwch yn talu o fewn y cyfnod o 15 diwrnod a bennir yn Rhan 1. Os byddwch yn dewis talu’r gosb hon, ni chymerir camau pellach mewn perthynas â’r tramgwydd honedig a ddisgrifir yn Rhan 1 o’r hysbysiad hwn. Nid yw talu’r gosb yn golygu eich bod yn cyfaddef eich bod yn euog, ac ni fydd yn achosi cofnod o gollfarn droseddol yn eich erbyn. Gellir talu drwy gwblhau Rhan 3A isod a’i hanfon ynghyd â’r taliad i’r cyfeiriad a nodir yn y Rhan honno, neu drwy gwblhau Rhan 3A isod a thalu’r swm yn bersonol yn [enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi].
|
You can pay a discounted amount of £30 (thirty pounds) if you pay within the 15 day period which is specified in Part 1. If you choose to pay this penalty, no further action will be taken in respect of the alleged offence described at Part 1 of this notice. The payment of the penalty involves no admission of guilt and will not result in a record of criminal conviction being made against you. Payment may be made by completing Part 3A below and sending it with payment to the address stated in that Part, or by completing Part 3A below and paying in person at [name and address of enforcement authority].
|
Mae’r dulliau talu derbyniol yn cynnwys arian, siec, archeb bost neu archeb arian, neu ar-lein yn y cyfeiriad gwe canlynol [cyfeiriad ar gyfer gwneud taliadau ar lein]. Dylid gwneud sieciau, archebion post neu archebion arian yn daladwy i [enw’r awdurdod gorfodi]. Os dewiswch dalu’r gosb hon gydag arian drwy’r post, rhaid ei anfon drwy’r post cofrestredig, a rhaid cadw’r prawf o’r postio. Os oes arnoch angen derbynneb am y taliad o’r gosb, rhaid ichi ofyn am dderbynneb wrth dalu, ac os byddwch yn talu drwy’r post, rhaid ichi ddarparu amlen stampiedig wedi ei hunan-gyfeirio. |
Acceptable methods of payment include cash, cheque, postal order or money order or online at the following web address [address for making online payments]. Cheques, postal orders or money orders should be made payable to [name of enforcement authority]. If you choose to pay this penalty in cash by post, this must be sent by registered post, and proof of posting must be retained. If you require a receipt for the payment of the penalty, you must ask for one at the time of payment, and if paying by post, you must provide a stamped, self-addressed envelope. |
RHYBUDD: NI DDERBYNNIR TALIADAU SY’N CYRRAEDD YN HWYR. NI FYDDWN YN ANFON NODYN ATGOFFA ATOCH. |
WARNING: LATE PAYMENT WILL NOT BE ACCEPTED. YOU WILL NOT BE SENT A REMINDER.
|
RHAN 3A
TALU COSB BENODEDIG A DDYRODDIR O DAN ADRAN 7 NEU 8 O DDEDDF IECHYD 2006 |
PART 3A
PAYMENT OF FIXED PENALTY ISSUED UNDER SECTION 7 OR 8 OF THE HEALTH ACT 2006 |
|
|||
(YSMYGU MEWN MAN DI-FWG NEU FETHU AG ATAL YSMYGU MEWN CERBYD PREIFAT DI-FWG) |
(SMOKING IN A SMOKE-FREE PLACE OR FAILING TO PREVENT SMOKING IN A SMOKE-FREE PRIVATE VEHICLE)
|
|
|||
Rhaid anfon y slip hwn gyda phob taliad
|
This slip must accompany all payments |
|
|||
At [Enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi y dylid anfon y taliad ato] |
_______________________
|
To [Name and address of enforcement authority where payment should be sent] |
|
||
Rhif yr hysbysiad o gosb |
_______________________ |
Penalty notice number
|
|
||
Yr wyf yn amgáu’r swm o: (ticiwch un blwch) |
|
I enclose the amount of (tick one box)
|
|||
(os gwneir y taliad o fewn y cyfnod o 15 diwrnod a bennir yn Rhan 1) |
o £30 |
(if the payment is made within the 15 day period specified in Part 1) |
|||
(os gwneir y taliad o fewn y cyfnod o 29 diwrnod a bennir yn Rhan 1)
|
o £50 |
(if the payment is made within the 29 day period specified in Part 1) |
|||
Enw llawn y tramgwyddwr honedig |
_______________________
|
Full name of alleged offender |
|||
Cyfeiriad y tramgwyddwr honedig |
_______________________
_______________________
_______________________
|
Address of alleged offender |
|||
Cod post |
_______________________
|
Post code |
|||
Llofnod |
_______________________ |
Signature |
|||
Dyddiad |
_______________________
|
Date |
|||
RHAN 4
GOFYN AM WRANDAWIAD LLYS |
PART 4
REQUESTING A COURT HEARING |
Os ydych yn dewis gofyn am wrandawiad llys, rhaid gwneud hynny o fewn y cyfnod o 29 diwrnod drwy gwblhau Rhan 4A a’i hanfon at [enw’r awdurdod gorfodi], neu drwy ysgrifennu at [enw’r awdurdod gorfodi] yn y cyfeiriad a nodir yn Rhan 4A, gan roi eich manylion, rhif yr hysbysiad o gosb (sydd i’w gael yn Rhan 1 o’r hysbysiad hwn) a’r cyfeiriad lle y gellir cyflwyno gwŷs i chi. Bydd y wŷs yn dweud wrthych ym mhle a pha bryd i fod yn bresennol yn y llys. Dim ond derbynnydd yr hysbysiad hwn(sef y person a enwir yn Rhan 1) gaiff ofyn am wrandawiad llys.
|
If you choose to request a court hearing, you must within the 29 day period do so by completing Part 4A and sending it to [name of enforcement authority], or by writing to [name of enforcement authority] at the address stated in Part 4A, giving your details, the penalty notice number (which can be found in Part 1 of this notice) and an address at which a summons can be served on you. The summons will tell you when and where to attend court. Only the recipient of this notice (the person named at Part 1) may request a court hearing.
|
RHAN 4A
DEDDF IECHYD 2006: |
PART 4A
HEALTH ACT 2006: |
||||
YSMYGU MEWN MAN DI-FWG O DAN ADRAN 7 NEU |
SMOKING IN A SMOKE-FREE PLACE UNDER SECTION 7 OR |
||||
METHU AG ATAL YSMYGU MEWN CERBYD PREFIAT DI-FWG O DAN ADRAN 8 |
FAILING TO PREVENT SMOKING IN A SMOKE-FREE PRIVATE VEHICLE UNDER SECTION 8 |
||||
CAIS AM I LYS BARN YMDRIN Â’R TRAMGWY HONEDIG |
REQUEST FOR ALLEGED OFFENCE TO BE DEALT WITH BY A COURT OF LAW
|
||||
At [Enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi y dylid anfon rhan 4A ato] |
__________________________
|
To [Name and address of enforcement authority where part 4A should be sent] |
|
||
Rhif yr hysbysiad o gosb |
__________________________ |
Penalty notice number
|
|
||
Rwyf yn dymuno i lys barn ddelio â mi ynglŷn â’r tramgwy honedig.
|
I wish to be dealt with by a court of law for the alleged offence. |
|
|||
Enw llawn y tramgwyddwr honedig |
__________________________
__________________________
|
Full name of alleged offender |
|
||
Cyfeiriad y tramgwyddwr honedig |
__________________________
__________________________
__________________________
|
Address of alleged offender |
Cod post |
__________________________
|
Post code |
Llofnod |
__________________________
|
Signature |
Dyddiad |
__________________________
|
Date |
([1]) 2006 p.28. Diwygiwyd adrannau 5, 9, 10(1) a 79 gan adran 95 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p.6). Ynglŷn ag ystyr “appropriate national authority” gweler adran 82(1).
([3]) 1988 p.52. Diwygiwyd adran 192(1) gan: Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8(Rhan IV), paragraff 12(4); Gorchymyn Cytuniad Lisboa (Newidiadau Terminoleg) (O.S. 2011/1043), Rhan 2, erthygl 6(1)(d); Deddf Mynediad i Gyfiawnder 1999 (p.22), Atodlen 15(Rhan V)(1), paragraff 1; a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 4, paragraff 78(2) a (3).
([4]) 1995 p.21. Diwygiwyd adran 85 gan adran 2 o Ddeddf Tiriogaethau Tramor Prydain 2002 (p.8) a chan adrannau 8 a 29 o Ddeddf Llongau Masnach a Diogelwch Morol 1997 (p.28) a Rhan 1 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.
([5]) 1968 p.59. Diwygiwyd adran 1 gan y canlynol: Deddf Rheoli Llygredd 1974 (p.40), adran 108 ac Atodlen 3; Deddf y Goruchaf Lys 1981 (p.54), adran 152 ac Atodlen 5; Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p.43), adran 162 ac Atodlen 15; Deddf Llongau Masnach 1995 (p.21), adran 314 ac Atodlen 13; Deddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 24; Deddf Llongau Masnach a Diogelwch Morol 1997 (p.28), adran 29 ac Atodlen 6; Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4), adran 59 ac Atodlen 11; a chan O.S. 1978/1049. Addaswyd hi hefyd gan Ddeddf Peilota 1987 (p.21), adran 32 ac Atodlen 2; a chan Ddeddf Llongau Masnach 1995, adran 310.
([6]) Diffinnir yr ymadroddion “chief officer of police”, “police force” a “police area”, mewn perthynas â Chymru a Lloegr, yn adran 101 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16).
([7]) Mae adran 7(1) o Ddeddf Iechyd 2006 yn darparu bod “smoke-free places” yn cynnwys mangreoedd di-fwg a cherbydau di-fwg.
([8]) Section 7(1) of the Health Act 2006 provides that smoke-free places include smoke-free premises and smoke-free vehicles.